Psalms 95

Cân o fawl

1Dewch, gadewch i ni ganu'n llawen i'r Arglwydd,
a gweiddi'n mawl i'r Graig sy'n ein hachub!
2Gadewch i ni fynd ato yn llawn diolch;
gweiddi'n uchel a chanu mawl iddo!
3Achos yr Arglwydd ydy'r Duw mawr;
y Brenin mawr sy'n uwch na'r ‛duwiau‛ i gyd.
4Mae mannau dyfna'r ddaear yn ei ddwylo,
a chopaon y mynyddoedd hefyd!
5Fe sydd piau'r môr, am mai fe wnaeth ei greu;
a'r tir hefyd, gan mai ei ddwylo fe wnaeth ei siapio.
6Dewch, gadewch i ni ei addoli ac ymgrymu iddo;
mynd ar ein gliniau o flaen yr Arglwydd ein Crëwr.
7Fe ydy'n Duw ni, a ni ydy ei bobl e;
y defaid mae'n gofalu amdanyn nhw.
O na fyddech chi'n gwrando arno heddiw!
8“Peidiwch bod yn ystyfnig fel yn Meriba,
neu ar y diwrnod hwnnw yn Massa, yn yr anialwch. a
9Yno roedd eich hynafiaid wedi herio fy awdurdod,
a phrofi fy amynedd, er eu bod wedi gweld beth wnes i!
10Am bedwar deg mlynedd ron i'n eu ffieiddio nhw:
‘Maen nhw'n bobl hollol anwadal,’ meddwn i;
‘dyn nhw ddim eisiau fy nilyn i.’
11Felly digiais, a dweud ar lw,
‘Chân nhw byth fynd i'r lle sy'n saff i orffwys gyda mi!’”
Copyright information for CYM